top of page
Window (2).jpg

TAITH

Yma yn Neuadd Llanofer rydym yn darparu gofod i'r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ymarferol.

Rydym yn cynnig cyfle ar gyfer dysgu newydd ac yn cyflwyno cyrsiau fel rhan o raglen Dysgu Oedolion Cyngor Caerdydd. Mae gennym hefyd gyrsiau annibynnol sy'n cael eu rhedeg gan artistiaid ac ymarferwyr proffesiynol. P'un a ydych am ehangu eich gwybodaeth, cyfarfod â phobl newydd neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau sy'n addas i chi.

Credwn fod ein cyrsiau o fudd i'ch iechyd meddwl a chorfforol.

Mae gennym hefyd raglen barhaus o arddangosfeydd, digwyddiadau a pherfformiadau theatr trwy gydol y flwyddyn.

llogi ystafell

Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi lle yma yn Llanofer, ffoniwch ni'n uniongyrchol ar 02920 631144.

Yma mae Neuadd Llanofer yn darparu lle i'r gymuned sydd eisiau'r cyfle i ddysgu newydd. Rydym yn darparu ar gyfer cynllun Cyngor Caerdydd Dysgu Oedolion Caerdydd. P'un a ydych am ymestyn eich gwybodaeth, cwrdd â phobl newydd neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau sy'n addas i chi.

Credwn fod ein cyrsiau yn rhoi budd i'ch iechyd meddwl a chorfforol.

Dyddiau Cynnar

Ar droad yr 20fed ganrif, adeiladodd William Symonds, adeiladwr o Gaerdydd ers 1880 ac aelod o Gyngor Caerdydd 1882-1889, rif 17 Romilly Road, tŷ sengl brics coch Edwardaidd fel cartref teuluol iddo’i hun.  Arhosodd yn gartref preifat tan 1937 pan adawodd y meddianwyr olaf, Mr Harold Haslam a’i deulu, yr eiddo. 

John James Jackson; Syniadau Cynnar 

Bu John James Jackson (1864-1943), Cyfarwyddwr Addysg cyntaf (1940) Pwyllgor Addysg Dinas Caerdydd, yn byw am gyfnod yn y 1920au yn 17 Romilly Road. Argymhellodd fod y ddinas yn prynu adeilad ar Heol y Porth a chreu gwasanaeth ‘Wedi Gofal’ ar gyfer y llu o fechgyn a merched di-waith yn y ddinas. Cafodd ei adnabod fel Jackson Hall, wedyn yn glwb nos Jackson’s ac erbyn hyn mae’n siop nwyddau i Undeb Rygbi Cymru. 

Yn ystod dirwasgiad economaidd y 1930au, gwelodd Caerdydd gynnydd mawr yn niferoedd y bobl ifanc di-waith. Dim ond 25% aeth i Ysgolion Gramadeg ac o ganlyniad roedd nifer o bobl ifanc yn y Ddinas bryd hynny oedd wedi derbyn addysg wael, heb gymwysterau ac a oedd yn ddi-waith. 

Ym 1938, fel rhan o gyfres o fesurau i ddatrys y broblem, prynodd Pwyllgor Cyflogaeth Pobl Ifanc Dinas Caerdydd brydles ar 17 Romilly Road er mwyn ei weddnewid yn Ganolfan Gyfarwyddo Cyflogaeth i Ferched Ifanc – Tan hynny cawsant eu cartrefu gyda’r bechgyn yn Jackson Hall. 

Beth sydd mewn Enw?

Ystyriwyd enwau ar gyfer y ganolfan newydd gan y pwyllgor ar 17 Mawrth 1938. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg enwau nifer o ferched amlwg yn Hanes Cymru oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r Diwylliant Cymraeg. Cynigiwyd ‘The Lady Llanofer Hall’ a gofynnwyd i gadeirydd y Pwyllgor holi caniatâd gan ymddiriedolwyr Ystâd Llanofer i gael defnyddio’r enw. 

Ysgol Dros Dro 

Wedi 1941, defnyddiwyd y Neuadd fel cartref i ddisgyblion pan fomiwyd Ysgol Uwchradd Treganna yn rhannol. Parhaodd y defnydd hwn tan y 1960au cynnar pan agorwyd Ysgol Uwchradd Cantonian yn Y Tyllgoed.  Yng nghanol y 1960au, datblygodd Alun Higgins, Gweithiwr Ieuenctid a gyflogwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol, syniad o ‘Weithdy Celfyddyd Gyfoes’ i bobl ifanc ac ym 1966 fe ddefnyddion nhw Jackson Hall fel lleoliad. 

Y flwyddyn ddilynol, gwerthodd yr Awdurdod yr adeilad a bu’n rhaid i’r grŵp ddod o hyd i gartref newydd.  Ym 1967, cynigiwyd ystafelloedd iddynt mewn adeilad arall sef y Coleg Technoleg Bwyd ar Heol y Crwys. Crëwyd gweithdy celf gyfoes newydd.  Eto, yn ddirybudd, gwerthwyd yr adeilad fel storfa i archfarchnad. Cynhaliwyd protest yn erbyn cau’r adnodd gan aelodau’r grŵp yn Neuadd y Ddinas. 

Ym 1968 cynigiwyd neuadd Llanofer iddynt fel lleoliad a threuliwyd blwyddyn yn  atgyweirio, paentio ac ailwampio’r ganolfan er mwyn paratoi ar gyfer’ y defnydd newydd arno’.

Ym 1969 dechreuodd Neuadd Llanofer ar weithgareddau celf newydd y Ganolfan. Y nod oedd ‘cynnig y cyfle i bobl ifanc ddilyn eu diddordebau yn y celfyddydau’.  Ym 1978 agorwyd y Ganolfan i bob oedran a gallu a phenodwyd Tony Goble yn artist preswyl.

Ym 1993 roedd y Ganolfan yn wynebu cael ei chau ac yn dilyn sawl gwrthdystiad cyhoeddus a ffurfio Cwmni Elusennol, Llanover Hall Community Arts Limited, rhoddwyd grant o £50,000 gan y Sefydliad dros Chwaraeon a’r Celfyddydau. Defnyddiwyd y grant i ehangu darpariaeth y Ganolfan.

Ym 1998 yn dilyn cadarnhad gan Gyngor Dinas Caerdydd y byddai’r Ganolfan yn para am y 25 mlynedd nesaf, rhoddwyd grant o £398,000 gan Gyngor y Celfyddydau ar gyfer gwaith adeiladu ac ailwampio.  Yn dilyn hynny rhoddwyd £41,000 pellach i gynnig Gwasanaeth Allgymorth i gynnwys ysgolion ac fel bod tiwtoriaid yn gallu manteisio ar leoliadau mewn colegau, ysgolion a chanolfannau cymunedol.

Ers agor yr adeilad newydd yn 2000 mae’r ganolfan wedi rhedeg cyrsiau cyffrous ar grochenwaith, celf, crefftau, gwaith argraffu, tecstilau, celfyddyd gyfrifiadurol a ffotograffiaeth, dawns, drama a cherddoriaeth. Mae pobl ifanc ac oedolion wedi gallu dechrau a datblygu eu creadigrwydd.  O dan reolaeth newydd mae’r ganolfan wedi cael ei gwella, mae dosbarthiadau newydd yn cael eu datblygu ac mae gwaith gydag ysgolion a phartneriaid creadigol eraill yn dod â dysgwyr newydd i’r ganolfan. Mae Ymddiriedolwyr Elusen Celfyddydau Cymunedol Neuadd Llanofer yn gobeithio y bydd y wefan hon yn rhoi’r mynediad a’r anogaeth  i’r cyhoedd – hen ac ifanc – sydd ei angen arnynt er mwyn manteisio ar y cyfleodd mae’r Ganolfan yn eu cynnig. Byddwn yn parhau i gynnig ‘Agor Drws Celfyddyd i Bawb’.

Hanes llanover

bottom of page